WHR100
Dathliadau Canmlwyddiant Rheilffordd Uchdeldir Cymru 2023

23 – 25 Mehefin

Bydd Dathliadau Canmlwyddiant Rheilffordd Ucheldir Cymru yn cael eu cynnal dros benwythnos hir ar y 23ain, 24ain a 25ain o Fehefin 2023.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod; ‘Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri’ a ‘Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru’ ynghyd â’u cymdeithasau cefnogol yn cydweithio i drefnu’r dathliadau hyn, a fydd yn cael eu cynnal yn bennaf yn ardal Porthmadog a’r cyffiniau.

Roedd penwythnos digwyddiad 2022 yn ôl ym mis Gorffennaf yn llwyddiant gwych ac rydym yn benderfynol o wneud dathliadau 2023 hyd yn oed yn well!

Bydd ein digwyddiad yn 2023 yn ail-greu golygfeydd o weithrediad gwreiddiol RHUC ac yn arddangos hanes y llinell eiconig hon hyd at y trenau twristiaeth golygfaol sy’n gweithredu heddiw.

Os nad ydych wedi ei wylio’n barod, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio fideo Diweddariad Digwyddiad ‘WHR100’, sy’n esbonio datblyiadau ar drefniadau y digwyddiad hyd at hyn, linc ar gael uchod.

Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi yn fuan… felly cadwch lygad allan!

Beddgelert station in the 1920s